Lleoliad:
Conference Room C - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2017
Amser: 14.45 - 17.00
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Grŵp: |
Paul Allen Mari Arthur Martin Bishop Steve Brooks James Byrne Haf Elgar Yr Athro Nick Jenkins Chris Jofeh Yr Athro Calvin Jones Shea Jones Yr Athro Ian Knight Jess McQuade Yr Athro Nick Pidgeon David Reilly Neville Rookes Yr Athro James Scourse Jeremy Smith Emma Thomas David Weatherall Dr Lorraine Whitmarsh Matthew Williams Sean O’Neill |
Eraill yn bresennol: |
Vikki Howells AC David Melding AC Mark Reckless AC |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Ysgrifenyddiaeth) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
Ymddiheuriadau: |
Yr Athro Stuart Irvine Keith Jones |
Nododd Mark Reckless AC y cefndir i sefydlu'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar y Newid yn yr Hinsawdd ('y grŵp') a'i ddiben.
Roedd adborth gan randdeiliaid wedi nodi bod bwlch wedi'i adael ar ôl dirwyn Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i ben. Diben y grŵp oedd: defnyddio arbenigedd allanol a llywio'r sesiwn graffu flynyddol ar newid hinsawdd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a dadl dilynol y Cyfarfod Llawn.
Cytunodd Mark Reckless i ysgrifennu at Gadeiryddion Pwyllgorau'r Cynulliad cyn y sesiwn graffu i bwysleisio bod newid hinsawdd yn ymestyn ar draws holl gylchoedd gwaith eu Pwyllgorau.
Cymeradwyodd aelodau'r grŵp y cynllun i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig graffu ar waith Ysgrifenyddion Cabinet, yn arbennig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y cynlluniau ar gyfer Ffordd Liniaru'r M4.
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cyfranogiad y gymuned, a cheisio gwneud materion yn ddealladwy ac yn berthnasol i bobl Cymru. Fodd bynnag, teimlai'r grŵp o ystyried yr adnoddau sydd ar gael nad oedd swyddogaeth allgymorth ac addysg y Comisiwn blaenorol bellach yn bosibl ac y byddai'n well cyfeirio arbenigedd y grŵp tuag at ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Soniodd Peter Davies am waith y Comisiwn:
- Ei gylch gwaith oedd darparu cyngor, adeiladu consensws ac annog gweithredu;
- Cryfder y Comisiwn oedd ei fod yn annibynnol, ond roedd ganddo hefyd gynrychiolaeth wleidyddol drawsbleidiol;
- Roedd gwaith allgymorth wedi bod yn werthfawr. Roedd y gydberthynas waith agos gyda'r UKCCC yn bwysig. Roedd y Comisiwn wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddeddfwriaeth, e.e. targedau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Ymhlith yr elfennau yr oedd pobl yn teimlo y gellid eu gwella roedd:
- Efallai bod y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru wedi cael ei gyfaddawdu gan fod rhai cynrychiolwyr wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru;
- Yn aml nid oedd y Comisiwn yn ymwneud yn ddigon cynnar yn y broses o ddatblygu polisi er mwyn cael digon o ddylanwad;
- Roedd yn amlwg i'r Comisiwn nad oedd gan y tîm newid hinsawdd yn Llywodraeth Cymru ddigon o adnoddau.
Roedd y meysydd gwaith a awgrymir ar gyfer y grŵp cyfeirio arbenigol yn cynnwys:
- Atebolrwydd cliriach ar draws y sector cyhoeddus a chysondeb wrth wneud penderfyniadau.
- Mae angen i ddull cyson ar draws y llywodraeth e.e. caffael a gwario grantiau - gael ei ymgorffori ar draws meysydd polisi.
Amlygodd Jenny Rathbone AC yr angen i barhau i adeiladu consensws ar liniaru newid hinsawdd, ar lefel gymunedol ac ar lefel ryngwladol. Mae angen hefyd adeiladu consensws wrth i'r DU adael yr UE. Pwysleisiodd Jenny bwysigrwydd arweinyddiaeth ar draws y llywodraeth a'r sector cyhoeddus. Mae angen dull cydgysylltiedig ar draws Llywodraeth Cymru oherwydd na all Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gyflawni'r rhwymedigaethau o ran newid hinsawdd heb eraill - mae hwn yn fater i bawb.
Cytunodd y grŵp ar y materion a ganlyn:
- Bydd y grŵp yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn - unwaith ym mhob tymor y Cynulliad.
- Bydd y grŵp yn cyfarfod yn breifat, drwy wahoddiad yn unig, ond caiff cofnodion pob cyfarfod eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
- Gall y grŵp ddefnyddio grwpiau gorchwyl a gorffen llai i ymgymryd â thasgau lle mae angen arbenigedd penodol;
- Cyn y cyfarfod nesaf bydd papur yn cael ei baratoi sy'n crynhoi'r canlynol:
1) Y ddeddfwriaeth berthnasol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a oedd yn nodi camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd, e.e. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
2) Yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gamau gweithredu o ran newid hinsawdd, er enghraifft yn y Rhaglen Lywodraethu;
3) Y metrigau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i fesur ei llwyddiant wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Trafodwyd y Cylch Gorchwyl a chytunodd yr aelodau, o ystyried yr adnoddau o fewn y grŵp, y dylai'r ffocws fod ar ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Cafodd y cylch gorchwyl arfaethedig ei ddiwygio a chytunwyd arno fel a ganlyn:
Darparu cyngor arbenigol i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'w gynorthwyo yn ei waith o graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gyflawni ymrwymiadau polisi, dyletswyddau a thargedau statudol o ran newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys mesurau lliniaru ac addasu o ran newid hinsawdd.
Bydd hyn yn cynnwys:
- darparu cyngor i gefnogi cylch craffu blynyddol;
- cynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cytunodd y grŵp i wahodd cynrychiolydd o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ddod i'r cyfarfod nesaf i drafod blaenoriaethau a chamau gweithredu'r Comisiynydd mewn perthynas â newid hinsawdd.
Yn ystod y sesiwn, trafododd y grŵp hefyd:
- Yr angen i ymchwilio i newid hinsawdd a'r defnydd o dir yng Nghymru;
- Y gadwyn fwyd yng Nghymru ac effeithiau newid hinsawdd;
- Nodwyd fod canran fawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr o dan reolaeth Llywodraeth Cymru;
- Dylai'r gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru archwilio a yw wedi pennu'r targedau cywir, yn ogystal ag a yw'n eu cyrraedd;
- Awgrymwyd fod y grŵp yn gwahodd arbenigedd o'r grŵp Tyndall;
- Awgrymwyd fod y grŵp yn cynnal asesiad o gynnydd o ran addasu;
- Un trywydd ymholi fyddai asesu datganiad Llywodraeth Cymru ar ynni i weld a yw ar y raddfa a'r cyflymder sydd eu hangen i gyrraedd y targedau o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
- Gallai'r grŵp ymchwilio i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio ar gyfer metrigau/targedau perfformiad yn y maes hwn. Er enghraifft, a yw'n defnyddio nifer y tai sydd wedi gosod deunydd inswleiddio o dan y cynllun Arbed fel mesur o lwyddiant?
- Awgrymwyd y caiff gwaith Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ei werthuso gyda'r bwriad o geisio deall i ba raddau y mae ei argymhellion yn cael eu gweithredu;
- Awgrymwyd y gallai'r grŵp nodi meysydd posibl lle gallai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymgymryd â gwaith pellach.
Aelodau'r Grŵp
Cafwyd trafodaeth ynghylch aelodaeth y grŵp, yn arbennig, a ddylai Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol/cynrychiolydd o'i swyddfa fod yn aelod.
Teimlai rhai aelodau o ystyried bod 3 o'r 7 nod llesiant yn gysylltiedig â newid hinsawdd ei bod yn hanfodol cynrychioli ei swyddfa. Dywedodd rhai aelodau y byddai'n anodd dwyn ei swyddfa i gyfrif os yw'n aelod o'r grŵp. Awgrymwyd y gallai swyddfa'r Comisiynydd gael statws sylwedydd ar gyfer eitemau penodol mewn rhai cyfarfodydd.
Awgrymwyd y dylai cynrychiolwyr o gronfeydd pensiwn, y diwydiant yswiriant, y sector ariannol ac Energy UK gael eu gwahodd i fod yn rhan o'r grŵp.
Cytunwyd y bydd Cadeirydd y grŵp yn cael ei ethol yn y cyfarfod nesaf.
22 Mai 2017
Tŷ Hywel, Bae Caerdydd